P-05-842 Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Changing Minds Campaign Group, wedi iddi gasglu 1,387 o lofnodion ar-lein a 1,640 ar bapur, sef cyfanswm o 3,027 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydnabod y ffaith
nad yw'r lefel bresennol o gyfranogiad pobl ifanc yn y broses o
gomisiynu gwasanaethau yn caniatáu i grwpiau ymylol gael eu
cynnwys yn y broses honno. Rydym yn gofyn am adolygiad o'r
polisïau a'r canllawiau sydd ar waith, ynghyd ag argymhelliad
bod canllawiau newydd gorfodol ar waith ar gyfer gwasanaethau a
gomisiynir ar gyfer pobl ifanc.
Mae angen i holl bobl ifanc Cymru gael y cyfle i leisio barn a
rhannu eu profiadau mewn modd ystyrlon, a hynny at ddibenion
llunio'r gwasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi. Rydym yn gofyn i
chi gefnogi'r broses o hyrwyddo newidiadau a fydd yn arwain at
gyflawni'r nod hwn. Fel pobl ifanc, rhaid inni gael y cyfle i
rannu ein syniadau a'n safbwyntiau ynghylch y prosiectau y mae
arnom eu hangen yn ein hardaloedd ni.
Ar hyn o bryd, dim ond cynghorau/fforymau ieuenctid
sy'n destun ymgynghoriadau, ac nid yw'r drefn hon yn cynrychioli'r
rheini sy'n ei chael yn anodd bod yn rhan o fforymau o'r fath, fel
yr un o bob pump o oedolion ifanc sydd ag anhwylder iechyd meddwl y
gellir gwneud diagnosis ohono.
Mae angen llwyfan ar y bobl ifanc hynny na fyddant, o bosibl, yn
gallu cymryd rhan yn y cynlluniau presennol yn sgil eu problemau
iechyd meddwl, er mwyn iddynt gael cyfle i leisio barn ar
wasanaethau a phrosiectau sy'n effeithio arnynt yn
uniongyrchol.
Rydym yn grŵp o bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r Prosiect
Newid Meddyliau, sy'n cael ei gydlynu gan sefydliad Newport Mind.
Disgwylir i'r prosiect hwn golli arian ym mis Tachwedd. Yn sgil y
sefyllfa hon, rydym wedi bod yn dysgu am y broses gomisiynu, sydd
wedi arwain at greu'r ddeiseb hon ac i'n hymgyrch ehangach, sef
#changeit.
Bydd cynnwys pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn
uniongyrchol y broses gomisiynu yn hwyluso'r broses o deilwra
gwasanaethau ac yn gwella hyder y bobl a dargedir gan y
gwasanaethau a ddarperir.
"Roedd y cyfle i gyfrannu at y prosiect hwn yn gyfle imi wir ddeall
pryderon pobl ifanc a'r problemau y maent yn eu hwynebu. Heb fod y
pryderon hyn yn cael eu codi a'u cynnwys wrth lansio unrhyw bolisi
sy'n effeithio ar bobl ifanc, bydd unrhyw fenter sy'n effeithio
arnynt yn ddiffygiol".
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r ddogfen 'Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru' gan Gomisiynydd Plant Cymru yn fframwaith ar gyfer ymgorffori hawliau plant mewn gwasanaethau sy'n ymwneud â phobl ifanc. Mae'r rhain yn ganllawiau, ac felly nid ydynt yn orfodol. Maent yn seiliedig ar Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC), sy'n amlinellu hawl plant i fod yn rhan o greu a gweithredu polisïau—yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar eu demograffig nhw.
Mae Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2016/2017
(yr Adroddiad) yn tynnu sylw penodol at y ffaith bod y Comisiynydd
yn dymuno gweld pobl ifanc yn cael eu hintegreiddio yn y broses
gomisiynu i raddau mwy helaeth.
Mae'r canllawiau cyfredol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc yng
Nghymru wedi'u cynnwys yn nogfen 'Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc
yng Nghymru Arfer Da 2016', ymhlith pethau eraill. Mae'r
saith 'safon graidd' sydd wedi'u nodi yn y canllaw yn gamau
cychwynnol ardderchog.
O ran y safonau a'r dulliau hyn, er eu bod yn cael eu bodloni'n
rhannol mewn rhai awdurdodau yng Nghymru, mae'r ffaith nad ydynt yn
orfodol yn golygu nad ydynt yn ddigonol ar gyfer sicrhau
atebolrwydd ynghylch yr holl wasanaethau sy'n ymwneud â phobl
ifanc.
Rydym yn ceisio sicrhau bod gan bobl ifanc o grwpiau ymylol lais yn
y broses o wneud penderfyniadau, yn ogystal â sicrhau bod y
gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru
o safon ragorol a chyson.
Mae ein deiseb yn cyd-fynd ag Argymhelliad 10 o'r adroddiad
'Cadernid Meddwl', sy'n tynnu sylw at lefelau'r gwasanaethau iechyd
meddwl sy'n cael eu darparu i bobl ifanc ar hyn o bryd, ac yn
ategu'r gwaith a wneir gan y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl
Ifanc.
Heb newid y canllawiau presennol, bydd pobl ifanc ledled Cymru yn
parhau i gael eu gwthio i'r cyrion. Yn benodol, bydd y rhai sydd
â phroblemau iechyd meddwl neu anghenion ychwanegol, sef y
rhai nad ydynt, o bosibl, yn gallu cymryd rhan yn y mentrau
cyfranogiad ieuenctid cyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd, yn
parhau i'w chael yn anodd lleisio barn.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Casnewydd
· Dwyrain De Cymru